1 Yna Rehoboam a aeth i Sichem: canys i Sichem y daethai holl Israel i'w urddo ef yn frenin.
2 A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac efe eto yn yr Aifft, (canys efe a ffoesai o ŵydd Solomon y brenin, a Jeroboam a arosasai yn yr Aifft;)
3 Hwy a anfonasant, ac a alwasant arno ef. A Jeroboam a holl gynulleidfa Israel a ddaethant, ac a ymddiddanasant â Rehoboam, gan ddywedyd,
4 Dy dad di a wnaeth ein hiau ni yn drom: ac yn awr ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o'i iau drom ef a roddodd efe arnom ni, ac ni a'th wasanaethwn di.