24 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr meibion Israel; dychwelwch bob un i'w dŷ ei hun: canys trwof fi y mae y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar air yr Arglwydd, ac a ddychwelasant i fyned ymaith, yn ôl gair yr Arglwydd.
25 Yna Jeroboam a adeiladodd Sichem ym mynydd Effraim, ac a drigodd ynddi hi; ac a aeth oddi yno, ac adeiladodd Penuel.
26 A Jeroboam a feddyliodd yn ei galon, Yn awr y dychwel y frenhiniaeth at dŷ Dafydd.
27 Os â y bobl hyn i fyny i wneuthur aberthau yn nhŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem, yna y try calon y bobl hyn at eu harglwydd Rehoboam brenin Jwda, a hwy a'm lladdant i, ac a ddychwelant at Rehoboam brenin Jwda.
28 Yna y brenin a ymgynghorodd, ac a wnaeth ddau lo aur, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gormod yw i chwi fyned i fyny i Jerwsalem: wele dy dduwiau di, O Israel, y rhai a'th ddug di i fyny o wlad yr Aifft.
29 Ac efe a osododd un yn Bethel, ac a osododd y llall yn Dan.
30 A'r peth hyn a aeth yn bechod: oblegid y bobl a aethant gerbron y naill hyd Dan.