6 A'r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â'r henuriaid a fuasai yn sefyll gerbron Solomon ei dad ef, tra yr ydoedd efe yn fyw, ac a ddywedodd, Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb i'r bobl hyn?
7 A hwy a lefarasant wrtho ef, gan ddywedyd, Os byddi di heddiw was i'r bobl hyn, a'u gwasanaethu hwynt, a'u hateb hwynt, a llefaru wrthynt eiriau teg; yna y byddant weision i ti byth.
8 Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid, yr hwn a gyngorasent iddo ef; ac efe a ymgynghorodd â'r gwŷr ieuainc a gynyddasai gydag ef, a'r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef:
9 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr atebom y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyf, gan ddywedyd, Ysgafnha yr iau a roddodd dy dad arnom ni?
10 A'r gwŷr ieuainc, y rhai a gynyddasent gydag ef, a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi di wrth y bobl yma, y rhai a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, Dy dad di a drymhaodd ein hiau ni, ond ysgafnha di hi arnom ni; fel hyn y lleferi di wrthynt; Fy mys bach fydd breisgach na llwynau fy nhad.
11 Ac yn awr fy nhad a'ch llwythodd â iau drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a'ch cosbodd chwi â ffrewyllau, a mi a'ch cosbaf chwi ag ysgorpionau.
12 A daeth Jeroboam a'r holl bobl at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llefarasai y brenin, gan ddywedyd, Dychwelwch ataf fi y trydydd dydd.