11 Y cŵn a fwyty yr hwn fyddo farw o eiddo Jeroboam yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo farw yn y maes: canys yr Arglwydd a'i dywedodd.
12 Cyfod di gan hynny, dos i'th dŷ: a phan ddelo dy draed i'r ddinas, bydd marw y bachgen.
13 A holl Israel a alarant amdano ef, ac a'i claddant ef: canys efe yn unig o Jeroboam a ddaw i'r bedd; oherwydd cael ynddo ef beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel, yn nhŷ Jeroboam.
14 Yr Arglwydd hefyd a gyfyd iddo frenin ar Israel, yr hwn a dyr ymaith dŷ Jeroboam y dwthwn hwnnw: ond pa beth? ie, yn awr.
15 Canys yr Arglwydd a dery Israel, megis y siglir y gorsen mewn dwfr; ac a ddiwreiddia Israel o'r wlad dda hon a roddodd efe i'w tadau hwynt, ac a'u gwasgar hwynt tu hwnt i'r afon; oherwydd gwneuthur ohonynt eu llwyni, gan annog yr Arglwydd i ddigofaint.
16 Ac efe a ddyry heibio Israel, er mwyn pechodau Jeroboam, yr hwn a bechodd, a'r hwn a wnaeth i Israel bechu.
17 A gwraig Jeroboam a gyfododd, ac a aeth ymaith, ac a ddaeth i Tirsa: ac a hi yn dyfod i drothwy y tŷ, bu farw y bachgen.