20 A'r dyddiau y teyrnasodd Jeroboam oedd ddwy flynedd ar hugain: ac efe a hunodd gyda'i dadau; a Nadab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
21 A Rehoboam mab Solomon a deyrnasodd yn Jwda. Mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan aeth efe yn frenin, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr Arglwydd o holl lwythau Israel, i osod ei enw yno. Ac enw ei fam ef oedd Naama, Ammones.
22 A Jwda a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd; a hwy a'i hanogasant ef i eiddigedd, rhagor yr hyn oll a wnaethai eu tadau, yn eu pechodau a wnaethent.
23 Canys hwy a adeiladasant iddynt uchelfeydd, a delwau, a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren gwyrddlas.
24 A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad: gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd‐dra'r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.
25 Ac yn y bumed flwyddyn i'r brenin Rehoboam, Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem.
26 Ac efe a ddug ymaith drysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin; efe a'u dug hwynt ymaith oll: dug ymaith hefyd yr holl darianau aur a wnaethai Solomon.