22 A Jwda a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd; a hwy a'i hanogasant ef i eiddigedd, rhagor yr hyn oll a wnaethai eu tadau, yn eu pechodau a wnaethent.
23 Canys hwy a adeiladasant iddynt uchelfeydd, a delwau, a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren gwyrddlas.
24 A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad: gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd‐dra'r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.
25 Ac yn y bumed flwyddyn i'r brenin Rehoboam, Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem.
26 Ac efe a ddug ymaith drysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin; efe a'u dug hwynt ymaith oll: dug ymaith hefyd yr holl darianau aur a wnaethai Solomon.
27 A'r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a'u rhoddodd hwynt i gadw yn llaw tywysogion y rhedegwyr, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin.
28 A phan elai y brenin i dŷ yr Arglwydd, y rhedegwyr a'u dygent hwy, ac a'u hadferent i ystafell y rhedegwyr.