24 A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad: gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd‐dra'r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.
25 Ac yn y bumed flwyddyn i'r brenin Rehoboam, Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem.
26 Ac efe a ddug ymaith drysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin; efe a'u dug hwynt ymaith oll: dug ymaith hefyd yr holl darianau aur a wnaethai Solomon.
27 A'r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a'u rhoddodd hwynt i gadw yn llaw tywysogion y rhedegwyr, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin.
28 A phan elai y brenin i dŷ yr Arglwydd, y rhedegwyr a'u dygent hwy, ac a'u hadferent i ystafell y rhedegwyr.
29 A'r rhan arall o weithredoedd Rehoboam, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
30 A rhyfel fu rhwng Rehoboam a Jeroboam yr holl ddyddiau.