1 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i'r brenin Jeroboam mab Nebat, yr aeth Abeiam yn frenin ar Jwda.
2 Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom.
3 Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dad, y rhai a wnaethai efe o'i flaen ef: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda'r Arglwydd ei Dduw, fel calon Dafydd ei dad.
4 Ond er mwyn Dafydd y rhoddodd yr Arglwydd ei Dduw iddo ef oleuni yn Jerwsalem; i gyfodi ei fab ef ar ei ôl ef, ac i sicrhau Jerwsalem:
5 Oherwydd gwneuthur o Dafydd yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, ac na chiliodd oddi wrth yr hyn oll a orchmynnodd efe iddo holl ddyddiau ei einioes, ond yn achos Ureia yr Hethiad.