17 A Baasa brenin Israel a aeth i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama; fel na adawai efe i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda.
18 Yna Asa a gymerodd yr holl arian a'r aur a adawsid yn nhrysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin, ac efe a'u rhoddodd hwynt yn llaw ei weision: a'r brenin Asa a anfonodd at Benhadad mab Tabrimon, mab Hesion, brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd,
19 Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, rhwng fy nhad i a'th dad di: wele, mi a anfonais i ti anrheg o arian ac aur; tyred, diddyma dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi.
20 Felly Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ganddo ef, yn erbyn dinasoedd Israel, ac a drawodd Ijon, a Dan, ac Abel‐beth‐maacha, a holl Cinneroth, gyda holl wlad Nafftali.
21 A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama; ac a drigodd yn Tirsa.
22 Yna y brenin Asa a gasglodd holl Jwda, heb lysu neb: a hwy a gymerasant gerrig Rama, a'i choed, â'r rhai yr adeiladasai Baasa; a'r brenin Asa a adeiladodd â hwynt Geba Benjamin, a Mispa.
23 A'r rhan arall o holl hanes Asa, a'i holl gadernid ef, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'r dinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? eithr yn amser ei henaint efe a glafychodd o'i draed.