19 Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, rhwng fy nhad i a'th dad di: wele, mi a anfonais i ti anrheg o arian ac aur; tyred, diddyma dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi.
20 Felly Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ganddo ef, yn erbyn dinasoedd Israel, ac a drawodd Ijon, a Dan, ac Abel‐beth‐maacha, a holl Cinneroth, gyda holl wlad Nafftali.
21 A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama; ac a drigodd yn Tirsa.
22 Yna y brenin Asa a gasglodd holl Jwda, heb lysu neb: a hwy a gymerasant gerrig Rama, a'i choed, â'r rhai yr adeiladasai Baasa; a'r brenin Asa a adeiladodd â hwynt Geba Benjamin, a Mispa.
23 A'r rhan arall o holl hanes Asa, a'i holl gadernid ef, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'r dinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? eithr yn amser ei henaint efe a glafychodd o'i draed.
24 Ac Asa a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd gyda'i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
25 A Nadab mab Jeroboam a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn yr ail flwyddyn i Asa brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd.