25 A Nadab mab Jeroboam a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn yr ail flwyddyn i Asa brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd.
26 Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ei bechod ef â'r hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.
27 A Baasa mab Ahïa, o dŷ Issachar, a gydfwriadodd yn ei erbyn ef; a Baasa a'i trawodd ef yn Gibbethon eiddo y Philistiaid: canys Nadab a holl Israel oedd yn gwarchae ar Gibbethon.
28 A Baasa a'i lladdodd ef yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda, ac a deyrnasodd yn ei le ef.
29 A phan deyrnasodd, efe a drawodd holl dŷ Jeroboam; ni adawodd un perchen anadl i Jeroboam, nes ei ddifetha ef, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahïa y Siloniad:
30 Am bechodau Jeroboam y rhai a bechasai efe, a thrwy y rhai y gwnaethai efe i Israel bechu; oherwydd ei waith ef yn digio Arglwydd Dduw Israel.
31 A'r rhan arall o hanes Nadab, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?