3 Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dad, y rhai a wnaethai efe o'i flaen ef: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda'r Arglwydd ei Dduw, fel calon Dafydd ei dad.
4 Ond er mwyn Dafydd y rhoddodd yr Arglwydd ei Dduw iddo ef oleuni yn Jerwsalem; i gyfodi ei fab ef ar ei ôl ef, ac i sicrhau Jerwsalem:
5 Oherwydd gwneuthur o Dafydd yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, ac na chiliodd oddi wrth yr hyn oll a orchmynnodd efe iddo holl ddyddiau ei einioes, ond yn achos Ureia yr Hethiad.
6 A rhyfel a fu rhwng Rehoboam a Jeroboam holl ddyddiau ei einioes.
7 A'r rhan arall o weithredoedd Abeiam, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? A rhyfel a fu rhwng Abeiam a Jeroboam.
8 Ac Abeiam a hunodd gyda'i dadau, a hwy a'i claddasant ef yn ninas Dafydd. Ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
9 Ac yn yr ugeinfed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel yr aeth Asa yn frenin ar Jwda.