8 Ac Abeiam a hunodd gyda'i dadau, a hwy a'i claddasant ef yn ninas Dafydd. Ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
9 Ac yn yr ugeinfed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel yr aeth Asa yn frenin ar Jwda.
10 Ac un flynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom.
11 Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad.
12 Ac efe a yrrodd ymaith y gwŷr sodomiaidd o'r wlad, ac a fwriodd ymaith yr holl ddelwau a wnaethai ei dadau.
13 Ac efe a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines, oherwydd gwneuthur ohoni hi ddelw mewn llwyn; ac Asa a ddrylliodd ei delw hi, ac a'i llosgodd wrth afon Cidron.
14 Ond ni fwriwyd ymaith yr uchelfeydd: eto calon Asa oedd berffaith gyda'r Arglwydd ei holl ddyddiau ef.