1 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jehu mab Hanani yn erbyn Baasa, gan ddywedyd,
2 Oherwydd i mi dy ddyrchafu o'r llwch, a'th wneuthur yn flaenor ar fy mhobl Israel, a rhodio ohonot tithau yn ffordd Jeroboam, a pheri i'm pobl Israel bechu, gan fy nigio â'u pechodau;
3 Wele fi yn torri ymaith hiliogaeth Baasa, a hiliogaeth ei dŷ ef: a mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat.
4 Y cŵn a fwyty yr hwn fyddo marw o'r eiddo Baasa yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo marw o'r eiddo ef yn y maes.
5 A'r rhan arall o hanes Baasa, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'i gadernid ef, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?