10 A Simri a aeth ac a'i trawodd ef, ac a'i lladdodd, yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda, ac a deyrnasodd yn ei le ef.
11 A phan ddechreuodd efe deyrnasu, ac eistedd ar ei deyrngadair, efe a laddodd holl dŷ Baasa: ni adawodd efe iddo ef un gwryw, na'i geraint, na'i gyfeillion.
12 Felly Simri a ddinistriodd holl dŷ Baasa, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd efe yn erbyn Baasa trwy law Jehu y proffwyd.
13 Oherwydd holl bechodau Baasa, a phechodau Ela ei fab ef, trwy y rhai y pechasant hwy, a thrwy y rhai y gwnaethant i Israel bechu, gan ddigio Arglwydd Dduw Israel â'u gwagedd.
14 A'r rhan arall o hanes Ela, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
15 Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Simri saith niwrnod yn Tirsa: a'r bobl oedd yn gwersyllu yn erbyn Gibbethon eiddo y Philistiaid.
16 A chlybu y bobl y rhai oedd yn y gwersyll ddywedyd, Simri a gydfwriadodd, ac a laddodd y brenin. A holl Israel a goronasant Omri, tywysog y llu, yn frenin y dwthwn hwnnw ar Israel, yn y gwersyll.