16 A chlybu y bobl y rhai oedd yn y gwersyll ddywedyd, Simri a gydfwriadodd, ac a laddodd y brenin. A holl Israel a goronasant Omri, tywysog y llu, yn frenin y dwthwn hwnnw ar Israel, yn y gwersyll.
17 Ac Omri a aeth i fyny, a holl Israel gydag ef, o Gibbethon; a hwy a warchaeasant ar Tirsa.
18 A phan welodd Simri fod y ddinas wedi ei hennill, efe a aeth i balas tŷ y brenin, ac a losgodd dŷ y brenin am ei ben â thân, ac a fu farw;
19 Am ei bechodau yn y rhai y pechodd efe, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd, gan rodio yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod a wnaeth efe i beri i Israel bechu.
20 A'r rhan arall o hanes Simri, a'i gydfradwriaeth a gydfwriadodd efe; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
21 Yna yr ymrannodd pobl Israel yn ddwy ran: rhan o'r bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath, i'w osod ef yn frenin, a rhan ar ôl Omri.
22 A'r bobl oedd ar ôl Omri a orchfygodd y bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath: felly Tibni a fu farw, ac Omri a deyrnasodd.