28 Ac Omri a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria, ac Ahab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
29 Ac Ahab mab Omri a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asa brenin Jwda: ac Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn Samaria ddwy flynedd ar hugain.
30 Ac Ahab mab Omri a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd y tu hwnt i bawb o'i flaen ef.
31 Canys ysgafn oedd ganddo ef rodio ym mhechodau Jeroboam mab Nebat, ac efe a gymerth yn wraig Jesebel merch Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac a aeth ac a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo.
32 Ac efe a gyfododd allor i Baal yn nhŷ Baal, yr hwn a adeiladasai efe yn Samaria.
33 Ac Ahab a wnaeth lwyn. Ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio Arglwydd Dduw Israel na holl frenhinoedd Israel a fuasai o'i flaen ef.
34 Yn ei ddyddiau ef Hïel y Betheliad a adeiladodd Jericho: yn Abiram ei gyntaf‐anedig y sylfaenodd efe hi, ac yn Segub ei fab ieuangaf y gosododd efe ei phyrth hi, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law Josua mab Nun.