7 Hefyd trwy law Jehu mab Hanani y proffwyd y bu gair yr Arglwydd yn erbyn Baasa, ac yn erbyn ei dŷ ef, oherwydd yr holl ddrygioni a wnaeth efe yng ngolwg yr Arglwydd, gan ei ddigio ef trwy waith ei ddwylo; gan fod fel tŷ Jeroboam, ac oblegid iddo ei ladd ef.
8 Yn y chweched flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Ela mab Baasa ar Israel yn Tirsa, ddwy flynedd.
9 A Simri ei was ef, tywysog ar hanner y cerbydau, a gydfwriadodd yn ei erbyn ef, ac efe yn yfed yn feddw, yn Tirsa, yn nhŷ Arsa, yr hwn oedd benteulu yn Tirsa.
10 A Simri a aeth ac a'i trawodd ef, ac a'i lladdodd, yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda, ac a deyrnasodd yn ei le ef.
11 A phan ddechreuodd efe deyrnasu, ac eistedd ar ei deyrngadair, efe a laddodd holl dŷ Baasa: ni adawodd efe iddo ef un gwryw, na'i geraint, na'i gyfeillion.
12 Felly Simri a ddinistriodd holl dŷ Baasa, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd efe yn erbyn Baasa trwy law Jehu y proffwyd.
13 Oherwydd holl bechodau Baasa, a phechodau Ela ei fab ef, trwy y rhai y pechasant hwy, a thrwy y rhai y gwnaethant i Israel bechu, gan ddigio Arglwydd Dduw Israel â'u gwagedd.