1 Ac Eleias y Thesbiad, un o breswylwyr Gilead, a ddywedodd wrth Ahab, Fel mai byw Arglwydd Dduw Israel, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni bydd y blynyddoedd hyn na gwlith na glaw, ond yn ôl fy ngair i.
2 A gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef, gan ddywedyd,
3 Dos oddi yma, a thro tua'r dwyrain, ac ymguddia wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen.
4 Ac o'r afon yr yfi; a mi a berais i'r cigfrain dy borthi di yno.