17 Ac wedi y pethau hyn y clafychodd mab gwraig y tŷ, ac yr oedd ei glefyd ef mor gryf, fel na thrigodd anadl ynddo.
18 A hi a ddywedodd wrth Eleias, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, gŵr Duw? a ddaethost ti ataf i goffáu fy anwiredd, ac i ladd fy mab?
19 Ac efe a ddywedodd wrthi, Moes i mi dy fab. Ac efe a'i cymerth ef o'i mynwes hi, ac a'i dug ef i fyny i ystafell yr oedd efe yn aros ynddi, ac a'i gosododd ef ar ei wely ei hun.
20 Ac efe a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd fy Nuw, a ddrygaist ti y wraig weddw yr ydwyf fi yn ymdeithio gyda hi, gan ladd ei mab hi?
21 Ac efe a ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, ac a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd fy Nuw, dychweled, atolwg, enaid y bachgen hwn iddo eilwaith.
22 A'r Arglwydd a wrandawodd ar lef Eleias; ac enaid y bachgen a ddychwelodd i mewn iddo, ac efe a ddadebrodd.
23 Ac Eleias a gymerodd y bachgen, ac a'i dug ef i waered o'r ystafell i'r tŷ, ac a'i rhoddes ef i'w fam: ac Eleias a ddywedodd, Gwêl, byw yw dy fab.