2 A gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef, gan ddywedyd,
3 Dos oddi yma, a thro tua'r dwyrain, ac ymguddia wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen.
4 Ac o'r afon yr yfi; a mi a berais i'r cigfrain dy borthi di yno.
5 Felly efe a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair yr Arglwydd; canys efe a aeth, ac a arhosodd wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen.
6 A'r cigfrain a ddygent iddo fara a chig y bore, a bara a chig brynhawn: ac efe a yfai o'r afon.
7 Ac yn ôl talm o ddyddiau y sychodd yr afon, oblegid na buasai law yn y wlad.
8 A gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef, gan ddywedyd,