21 Ac efe a ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, ac a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd fy Nuw, dychweled, atolwg, enaid y bachgen hwn iddo eilwaith.
22 A'r Arglwydd a wrandawodd ar lef Eleias; ac enaid y bachgen a ddychwelodd i mewn iddo, ac efe a ddadebrodd.
23 Ac Eleias a gymerodd y bachgen, ac a'i dug ef i waered o'r ystafell i'r tŷ, ac a'i rhoddes ef i'w fam: ac Eleias a ddywedodd, Gwêl, byw yw dy fab.
24 A'r wraig a ddywedodd wrth Eleias, Yn awr wrth hyn y gwn mai gŵr Duw ydwyt ti, ac mai gwirionedd yw gair yr Arglwydd yn dy enau di.