1 Ac ar ôl dyddiau lawer daeth gair yr Arglwydd at Eleias, yn y drydedd flwyddyn, gan ddywedyd, Dos, ymddangos i Ahab; a mi a roddaf law ar wyneb y ddaear.
2 Ac Eleias a aeth i ymddangos i Ahab. A'r newyn oedd dost yn Samaria.
3 Ac Ahab a alwodd Obadeia, yr hwn oedd benteulu iddo: (ac Obadeia oedd yn ofni yr Arglwydd yn fawr:
4 Canys pan ddistrywiodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd, Obadeia a gymerodd gant o broffwydi, ac a'u cuddiodd hwynt bob yn ddeg a deugain mewn ogof, ac a'u porthodd hwynt â bara ac â dwfr.)
5 Ac Ahab a ddywedodd wrth Obadeia, Dos i'r wlad, at bob ffynnon ddwfr, ac at yr holl afonydd: ysgatfydd ni a gawn laswellt, fel y cadwom yn fyw y ceffylau a'r mulod, fel na adawom i'r holl anifeiliaid golli.