20 Felly Ahab a anfonodd at holl feibion Israel, ac a gasglodd y proffwydi ynghyd i fynydd Carmel.
21 Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd, Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl? os yr Arglwydd sydd Dduw, ewch ar ei ôl ef; ond os Baal, ewch ar ei ôl yntau. A'r bobl nid atebasant iddo air.
22 Yna y dywedodd Eleias wrth y bobl, Myfi fy hunan wyf yn fyw o broffwydi yr Arglwydd; ond proffwydi Baal ydynt bedwar cant a dengwr a deugain.
23 Rhodder gan hynny i ni ddau fustach: a dewisant hwy iddynt un bustach, a darniant ef, a gosodant ar goed, ond na osodant dân dano: a minnau a baratoaf y bustach arall, ac a'i gosodaf ar goed, ac ni roddaf dân dano.
24 A gelwch chwi ar enw eich duwiau, a minnau a alwaf ar enw yr Arglwydd: a'r Duw a atebo trwy dân, bydded efe Dduw. A'r holl bobl a atebasant ac a ddywedasant, Da yw y peth.
25 Ac Eleias a ddywedodd wrth broffwydi Baal, Dewiswch i chwi un bustach, a pharatowch ef yn gyntaf; canys llawer ydych chwi: a gelwch ar enw eich duwiau, ond na osodwch dân dano.
26 A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt, ac a'i paratoesant, ac a alwasant ar enw Baal o'r bore hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal, gwrando ni; ond nid oedd llef, na neb yn ateb: a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid.