24 A gelwch chwi ar enw eich duwiau, a minnau a alwaf ar enw yr Arglwydd: a'r Duw a atebo trwy dân, bydded efe Dduw. A'r holl bobl a atebasant ac a ddywedasant, Da yw y peth.
25 Ac Eleias a ddywedodd wrth broffwydi Baal, Dewiswch i chwi un bustach, a pharatowch ef yn gyntaf; canys llawer ydych chwi: a gelwch ar enw eich duwiau, ond na osodwch dân dano.
26 A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt, ac a'i paratoesant, ac a alwasant ar enw Baal o'r bore hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal, gwrando ni; ond nid oedd llef, na neb yn ateb: a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid.
27 A bu, ar hanner dydd, i Eleias eu gwatwar hwynt, a dywedyd, Gwaeddwch â llef uchel: canys duw yw efe; naill ai ymddiddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe; fe a allai ei fod yn cysgu, ac mai rhaid ei ddeffro ef.
28 A hwy a waeddasant â llef uchel, ac a'u torasant eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll ac ag ellynod, nes i'r gwaed ffrydio arnynt.
29 Ac wedi iddi fyned dros hanner dydd, a phroffwydo ohonynt nes offrymu yr hwyr‐offrwm; eto nid oedd llef, na neb yn ateb, nac yn ystyried.
30 A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl, Nesewch ataf fi. A'r holl bobl a nesasant ato ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, yr hon a ddrylliasid.