32 Ac efe a adeiladodd â'r meini allor yn enw yr Arglwydd; ac a wnaeth ffos o gylch lle dau fesur o had, o amgylch yr allor.
33 Ac efe a drefnodd y coed, ac a ddarniodd y bustach, ac a'i gosododd ar y coed;
34 Ac a ddywedodd, Llenwch bedwar celyrnaid o ddwfr, a thywelltwch ar y poethoffrwm, ac ar y coed. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch eilwaith; a hwy a wnaethant eilwaith. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch y drydedd waith; a hwy a wnaethant y drydedd waith.
35 A'r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor, ac a lanwodd y ffos o ddwfr.
36 A phan offrymid yr hwyr‐offrwm, Eleias y proffwyd a nesaodd ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn.
37 Gwrando fi, O Arglwydd, gwrando fi, fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr Arglwydd Dduw, ac mai ti a ddychwelodd eu calon hwy drachefn.
38 Yna tân yr Arglwydd a syrthiodd, ac a ysodd y poethoffrwm, a'r coed, a'r cerrig, a'r llwch, ac a leibiodd y dwfr oedd yn y ffos.