37 Gwrando fi, O Arglwydd, gwrando fi, fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr Arglwydd Dduw, ac mai ti a ddychwelodd eu calon hwy drachefn.
38 Yna tân yr Arglwydd a syrthiodd, ac a ysodd y poethoffrwm, a'r coed, a'r cerrig, a'r llwch, ac a leibiodd y dwfr oedd yn y ffos.
39 A'r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, Yr Arglwydd, efe sydd Dduw, yr Arglwydd, efe sydd Dduw.
40 Ac Eleias a ddywedodd wrthynt hwy, Deliwch broffwydi Baal; na ddihanged gŵr ohonynt. A hwy a'u daliasant: ac Eleias a'u dygodd hwynt i waered i afon Cison, ac a'u lladdodd hwynt yno.
41 Ac Eleias a ddywedodd wrth Ahab, Dos i fyny, bwyta ac yf; canys wele drwst llawer o law.
42 Felly Ahab a aeth i fyny i fwyta ac i yfed. Ac Eleias a aeth i fyny i ben Carmel; ac a ymostyngodd ar y ddaear, ac a osododd ei wyneb rhwng ei liniau;
43 Ac a ddywedodd wrth ei lanc, Dos i fyny yn awr, edrych tua'r môr. Ac efe a aeth i fyny ac a edrychodd, ac a ddywedodd, Nid oes dim. Dywedodd yntau, Dos eto saith waith.