17 Yntau a ddywedodd, Dywed, atolwg, wrth y brenin Solomon, (canys ni omedd efe dydi,) am roddi ohono ef Abisag y Sunamees yn wraig i mi.
18 A dywedodd Bathseba, Da; mi a ddywedaf drosot ti wrth y brenin.
19 Felly Bathseba a aeth at y brenin Solomon, i ddywedyd wrtho ef dros Adoneia. A'r brenin a gododd i'w chyfarfod hi, ac a ostyngodd iddi, ac a eisteddodd ar ei orseddfainc, ac a barodd osod gorseddfainc i fam y brenin: a hi a eisteddodd ar ei ddeheulaw ef.
20 Yna hi a ddywedodd, Un dymuniad bychan yr ydwyf fi yn ei ddymuno gennyt; na omedd fi. A'r brenin a ddywedodd wrthi hi, Gofyn, fy mam: canys ni'th omeddaf.
21 A hi a ddywedodd, Rhodder Abisag y Sunamees yn wraig i Adoneia dy frawd.
22 A'r brenin Solomon a atebodd ac a ddywedodd wrth ei fam, Paham y ceisi di Abisag y Sunamees i Adoneia? gofyn hefyd y frenhiniaeth iddo ef; canys fy mrawd hŷn na mi ydyw efe; a chydag ef y mae Abiathar yr offeiriad, a Joab mab Serfia.
23 A'r brenin Solomon a dyngodd i'r Arglwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid yn erbyn ei einioes y llefarodd Adoneia y gair hwn.