24 Yn awr gan hynny, fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn a'm sicrhaodd i, ac a wnaeth i mi eistedd ar orseddfainc Dafydd fy nhad, yr hwn hefyd a wnaeth i mi dŷ, megis y dywedasai efe: heddiw yn ddiau y rhoddir Adoneia i farwolaeth.
25 A'r brenin Solomon a anfonodd gyda Benaia mab Jehoiada; ac efe a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw.
26 Ac wrth Abiathar yr offeiriad y dywedodd y brenin, Dos i Anathoth, i'th fro dy hun; canys gŵr yn haeddu marwolaeth ydwyt ti: ond ni laddaf di y pryd hwn; oherwydd dwyn ohonot arch yr Arglwydd Dduw o flaen fy nhad Dafydd, ac am dy gystuddio yn yr hyn oll y cystuddiwyd fy nhad.
27 Felly y bwriodd Solomon Abiathar ymaith o fod yn offeiriad i'r Arglwydd; fel y cyflawnai air yr Arglwydd, yr hwn a ddywedasai efe am dŷ Eli yn Seilo.
28 A'r chwedl a ddaeth at Joab: canys Joab a wyrasai ar ôl Adoneia, er na wyrasai efe ar ôl Absalom. A ffodd Joab i babell yr Arglwydd, ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor.
29 A mynegwyd i'r brenin Solomon, ffoi o Joab i babell yr Arglwydd; ac wele, y mae efe wrth yr allor. A Solomon a anfonodd Benaia mab Jehoiada, gan ddywedyd, Dos, rhuthra arno ef.
30 A daeth Benaia i babell yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrtho ef, Fel hyn y dywed y brenin; Tyred allan. Yntau a ddywedodd, Na ddeuaf; eithr yma y byddaf farw. A Benaia a ddug drachefn air at y brenin, gan ddywedyd, Fel hyn'y dywedodd Joab, ac fel hyn y'm hatebodd.