27 Felly y bwriodd Solomon Abiathar ymaith o fod yn offeiriad i'r Arglwydd; fel y cyflawnai air yr Arglwydd, yr hwn a ddywedasai efe am dŷ Eli yn Seilo.
28 A'r chwedl a ddaeth at Joab: canys Joab a wyrasai ar ôl Adoneia, er na wyrasai efe ar ôl Absalom. A ffodd Joab i babell yr Arglwydd, ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor.
29 A mynegwyd i'r brenin Solomon, ffoi o Joab i babell yr Arglwydd; ac wele, y mae efe wrth yr allor. A Solomon a anfonodd Benaia mab Jehoiada, gan ddywedyd, Dos, rhuthra arno ef.
30 A daeth Benaia i babell yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrtho ef, Fel hyn y dywed y brenin; Tyred allan. Yntau a ddywedodd, Na ddeuaf; eithr yma y byddaf farw. A Benaia a ddug drachefn air at y brenin, gan ddywedyd, Fel hyn'y dywedodd Joab, ac fel hyn y'm hatebodd.
31 A dywedodd y brenin wrtho ef, Gwna fel y dywedodd efe, a rhuthra arno ef, a chladd ef; fel y tynnych y gwaed gwirion a dywalltodd Joab, oddi arnaf fi, ac oddi ar dŷ fy nhad i.
32 A'r Arglwydd a ddychwel ei waed ef ar ei ben ei hun; oherwydd efe a ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, ac a'u lladdodd hwynt â'r cleddyf, a Dafydd fy nhad heb wybod; sef Abner mab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa mab Jether, tywysog llu Jwda.
33 A'u gwaed hwynt a ddychwel ar ben Joab, ac ar ben ei had ef yn dragywydd: ond i Dafydd, ac i'w had, ac i'w dŷ, ac i'w orseddfainc, y bydd heddwch yn dragywydd gan yr Arglwydd.