1 Brenhinoedd 2:3-9 BWM

3 A chadw gadwraeth yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, i gadw ei ddeddfau ef, a'i orchmynion, a'i farnedigaethau, a'i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses; fel y llwyddych yn yr hyn oll a wnelych, ac i ba le bynnag y tröech:

4 Fel y cyflawno yr Arglwydd ei air a lefarodd efe wrthyf, gan ddywedyd, Os dy feibion a gadwant eu ffyrdd, i rodio ger fy mron mewn gwirionedd, â'u holl galon, ac â'u holl enaid, ni thorrir (eb efe) na byddo ohonot ŵr ar orseddfainc Israel.

5 Tithau hefyd a wyddost yr hyn a wnaeth Joab mab Serfia â mi, a'r hyn a wnaeth efe i ddau o dywysogion lluoedd Israel, i Abner mab Ner, ac i Amasa mab Jether, y rhai a laddodd efe, ac a ollyngodd waed rhyfel mewn heddwch, ac a roddodd waed rhyfel ar ei wregys oedd am ei lwynau, ac yn ei esgidiau oedd am ei draed.

6 Am hynny gwna yn ôl dy ddoethineb, ac na ad i'w benllwydni ef ddisgyn i'r bedd mewn heddwch.

7 Ond i feibion Barsilai y Gileadiad y gwnei garedigrwydd, a byddant ymysg y rhai a fwytânt ar dy fwrdd di: canys felly y daethant ataf fi pan oeddwn yn ffoi rhag Absalom dy frawd di.

8 Wele hefyd Simei mab Gera, mab Jemini, o Bahurim, gyda thi, yr hwn a'm melltithiodd i â melltith dost, y dydd yr euthum i Mahanaim: ond efe a ddaeth i waered i'r Iorddonen i gyfarfod â mi; a mi a dyngais i'r Arglwydd wrtho ef, gan ddywedyd, Ni'th laddaf â'r cleddyf.

9 Ond yn awr na ad di ef heb gosbedigaeth: canys gŵr doeth ydwyt ti, a gwyddost beth a wnei iddo: dwg dithau ei benwynni ef i waered i'r bedd mewn gwaed.