33 A'u gwaed hwynt a ddychwel ar ben Joab, ac ar ben ei had ef yn dragywydd: ond i Dafydd, ac i'w had, ac i'w dŷ, ac i'w orseddfainc, y bydd heddwch yn dragywydd gan yr Arglwydd.
34 Felly yr aeth Benaia mab Jehoiada i fyny, ac a ruthrodd arno, ac a'i lladdodd. Ac efe a gladdwyd yn ei dŷ ei hun yn yr anialwch.
35 A'r brenin a osododd Benaia mab Jehoiada yn ei le ef ar y filwriaeth. A'r brenin a osododd Sadoc yr offeiriad yn lle Abiathar.
36 A'r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho, Adeilada i ti dŷ yn Jerwsalem, ac aros yno, ac na ddos allan oddi yno nac yma na thraw.
37 Canys bydd, y dydd yr elych allan, ac yr elych dros afon Cidron, gan wybod y cei di wybod y lleddir di yn farw: dy waed fydd ar dy ben dy hun.
38 A dywedodd Simei wrth y brenin, Da yw y gair: fel y dywedodd fy arglwydd frenin, felly y gwna dy was. A Simei a drigodd yn Jerwsalem ddyddiau lawer.
39 Eithr ymhen tair blynedd y ffodd dau was i Simei at Achis, mab Maacha, brenin Gath. A mynegwyd i Simei, gan ddywedyd, Wele dy weision di yn Gath.