39 A phan ddaeth y brenin heibio, efe a lefodd ar y brenin, ac a ddywedodd, Dy was a aeth i ganol y rhyfel, ac wele, gŵr a drodd heibio, ac a ddug ŵr ataf fi, ac a ddywedodd, Cadw y gŵr hwn: os gan golli y cyll efe, yna y bydd dy einioes di yn lle ei einioes ef, neu ti a deli dalent o arian.