25 Diau na bu neb fel Ahab yr hwn a ymwerthodd i wneuthur drwg yng ngolwg yr Arglwydd: oherwydd Jesebel ei wraig a'i hanogai ef.
26 Ac efe a wnaeth yn ffiaidd iawn, gan fyned ar ôl delwau, yn ôl yr hyn oll a wnaeth yr Amoriaid, y rhai a yrrodd yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.
27 A phan glybu Ahab y geiriau hyn, efe a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachliain am ei gnawd, ac a ymprydiodd, ac a orweddodd mewn sachliain, ac a gerddodd yn araf.
28 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd,
29 Oni weli di fel yr ymostwng Ahab ger fy mron? am iddo ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg yn ei ddyddiau ef; ond yn nyddiau ei fab ef y dygaf y drwg ar ei dŷ ef.