8 Felly hi a ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab, ac a'u seliodd â'i sêl ef, ac a anfonodd y llythyrau at yr henuriaid, ac at y penaethiaid oedd yn ei ddinas yn trigo gyda Naboth.
9 A hi a ysgrifennodd yn y llythyrau, gan ddywedyd, Cyhoeddwch ympryd, a gosodwch Naboth uwchben y bobl.
10 Cyflëwch hefyd ddau ŵr o feibion y fall, gyferbyn ag ef, i dystiolaethu i'w erbyn ef, gan ddywedyd, Ti a geblaist Dduw a'r brenin. Ac yna dygwch ef allan, a llabyddiwch ef, fel y byddo efe marw.
11 A gwŷr ei ddinas, sef yr henuriaid a'r penaethiaid, y rhai oedd yn trigo yn ei ddinas ef, a wnaethant yn ôl yr hyn a anfonasai Jesebel atynt hwy, ac yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yn y llythyrau a anfonasai hi atynt hwy.
12 Cyhoeddasant ympryd, a chyfleasant Naboth uwchben y bobl.
13 A dau ŵr, o feibion y fall, a ddaethant, ac a eisteddasant ar ei gyfer ef: a gwŷr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef, sef yn erbyn Naboth, gerbron y bobl, gan ddywedyd, Naboth a gablodd Dduw a'r brenin. Yna hwy a'i dygasant ef allan o'r ddinas, ac a'i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw.
14 Yna yr anfonasant hwy at Jesebel, gan ddywedyd, Naboth a labyddiwyd, ac a fu farw.