1 A buant yn aros dair blynedd heb ryfel rhwng Syria ac Israel.
2 Ac yn y drydedd flwyddyn, Jehosaffat brenin Jwda a ddaeth i waered at frenin Israel.
3 A brenin Israel a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch mai eiddo ni yw Ramoth‐Gilead, a'n bod ni yn tewi, heb ei dwyn hi o law brenin Syria?
4 Ac efe a ddywedodd wrth Jehosaffat, A ei gyda mi i ryfel i Ramoth‐Gilead? A Jehosaffat a ddywedodd wrth frenin Israel, Yr ydwyf fi fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau.
5 Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw â gair yr Arglwydd.
6 Yna brenin Israel a gasglodd y proffwydi, ynghylch pedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A af fi yn erbyn Ramoth‐Gilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, Dos i fyny; canys yr Arglwydd a'i dyry hi yn llaw y brenin.