12 A'r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn, gan ddywedyd, Dos i fyny i Ramoth‐Gilead, a llwydda; canys yr Arglwydd a'i dyry hi yn llaw y brenin.
13 A'r gennad a aethai i alw Michea a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele yn awr eiriau y proffwydi yn unair yn dda i'r brenin: bydded, atolwg, dy air dithau fel gair un ohonynt, a dywed y gorau.
14 A dywedodd Michea, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hyn a ddywedo yr Arglwydd wrthyf, hynny a lefaraf fi.
15 Felly efe a ddaeth at y brenin. A'r brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth‐Gilead, ai peidio? Dywedodd yntau wrtho, Dos i fyny, a llwydda; canys yr Arglwydd a'i dyry hi yn llaw y brenin.
16 A'r brenin a ddywedodd wrtho, Pa sawl gwaith y'th dynghedaf di, na ddywedych wrthyf ond gwirionedd yn enw yr Arglwydd?
17 Ac efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel ar wasgar ar hyd y mynyddoedd, fel defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr Arglwydd, Nid oes feistr arnynt hwy; dychweled pob un i'w dŷ ei hun mewn heddwch.
18 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Oni ddywedais i wrthyt ti, na phroffwydai efe ddaioni i mi, eithr drygioni?