17 Ac efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel ar wasgar ar hyd y mynyddoedd, fel defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr Arglwydd, Nid oes feistr arnynt hwy; dychweled pob un i'w dŷ ei hun mewn heddwch.
18 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Oni ddywedais i wrthyt ti, na phroffwydai efe ddaioni i mi, eithr drygioni?
19 Ac efe a ddywedodd, Clyw gan hynny air yr Arglwydd: Gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu'r nefoedd yn sefyll yn ei ymyl, ar ei law ddeau ac ar ei law aswy.
20 A'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy a dwylla Ahab, fel yr elo efe i fyny ac y syrthio yn Ramoth‐Gilead? Ac un a ddywedodd fel hyn, ac arall oedd yn dywedyd fel hyn.
21 Ac ysbryd a ddaeth allan, ac a safodd gerbron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Myfi a'i twyllaf ef. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Pa fodd?
22 Dywedodd yntau, Mi a af allan, ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef. Ac efe a ddywedodd, Twylli a gorchfygi ef: dos ymaith, a gwna felly.
23 Ac yn awr wele, yr Arglwydd a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy holl broffwydi hyn; a'r Arglwydd a lefarodd ddrwg amdanat ti.