23 Ac yn awr wele, yr Arglwydd a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy holl broffwydi hyn; a'r Arglwydd a lefarodd ddrwg amdanat ti.
24 Ond Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gern, ac a ddywedodd, Pa ffordd yr aeth ysbryd yr Arglwydd oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi?
25 A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio.
26 A brenin Israel a ddywedodd, Cymer Michea, a dwg ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mab y brenin;
27 A dywed, Fel hyn y dywed y brenin; Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch ef â bara cystudd ac â dwfr blinder, nes i mi ddyfod mewn heddwch.
28 A dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr Arglwydd ynof fi. Dywedodd hefyd, Gwrandewch hyn yr holl bobl.
29 Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth‐Gilead.