39 A'r rhan arall o hanesion Ahab, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'r tŷ ifori a adeiladodd efe, a'r holl ddinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
40 Felly Ahab a hunodd gyda'i dadau; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
41 A Jehosaffat mab Asa a aeth yn frenin ar Jwda yn y bedwaredd flwyddyn i Ahab brenin Israel.
42 Jehosaffat oedd fab pymtheng mlwydd ar hugain pan aeth efe yn frenin: a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Asuba, merch Silhi.
43 Ac efe a rodiodd yn holl ffordd Asa ei dad, ni ŵyrodd efe oddi wrthi hi, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd. Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.
44 A Jehosaffat a heddychodd â brenin Israel.
45 A'r rhan arall o hanes Jehosaffat, a'i rymustra a wnaeth efe, a'r modd y rhyfelodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?