45 A'r rhan arall o hanes Jehosaffat, a'i rymustra a wnaeth efe, a'r modd y rhyfelodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
46 A'r rhan arall o'r sodomiaid a'r a adawyd yn nyddiau Asa ei dad ef, efe a'u dileodd o'r wlad.
47 Yna nid oedd brenin yn Edom: ond rhaglaw oedd yn lle brenin.
48 Jehosaffat a wnaeth longau môr i fyned i Offir am aur: ond nid aethant; canys y llongau a ddrylliodd yn Esion‐Gaber.
49 Yna y dywedodd Ahaseia mab Ahab wrth Jehosaffat, Eled fy ngweision i gyda'th weision di yn y llongau: ond ni fynnai Jehosaffat.
50 A Jehosaffat a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd gyda'i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
51 Ahaseia mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Jehosaffat brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd.