16 Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef.
17 A'r naill wraig a ddywedodd, O fy arglwydd, myfi a'r wraig hon oeddem yn trigo yn yr un tŷ; a mi a esgorais yn tŷ gyda hi.
18 Ac ar y trydydd dydd wedi esgor ohonof fi, yr esgorodd y wraig hon hefyd; ac yr oeddem ni ynghyd, heb arall yn tŷ gyda ni, ond nyni ein dwyoedd yn tŷ.
19 A mab y wraig hon a fu farw liw nos; oherwydd hi a orweddodd arno ef.
20 A hi a gododd yng nghanol y nos, ac a gymerodd fy mab i o'm hymyl, tra yr ydoedd dy lawforwyn yn cysgu, ac a'i gosododd ef yn ei mynwes hi, a'i mab marw hi a osododd hi yn fy mynwes innau.
21 A phan godais i y bore i beri i'm mab sugno, wele, marw oedd efe; ac wedi i mi ddal arno y bore, wele, nid fy mab i, yr hwn a esgoraswn i, ydoedd efe.
22 A'r wraig arall a ddywedodd, Nage; eithr fy mab i yw y byw, a'th fab dithau yw y marw. A hon a ddywedodd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a'm mab i yw y byw. Fel hyn y llefarasant o flaen y brenin.