1 A'r brenin Solomon oedd frenin ar holl Israel.
2 A dyma y tywysogion oedd ganddo ef: Asareia mab Sadoc, yr offeiriad;
3 Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, oedd ysgrifenyddion; Jehosaffat mab Ahilud, yn gofiadur;
4 Benaia mab Jehoiada oedd ar y llu; a Sadoc ac Abiathar, yn offeiriaid;
5 Ac Asareia mab Nathan oedd ar y swyddogion; a Sabud mab Nathan oedd ben‐llywydd, ac yn gyfaill i'r brenin;
6 Ac Ahisar oedd benteulu; ac Adoniram mab Abda, ar y deyrnged.
7 A chan Solomon yr ydoedd deuddeg o swyddogion ar holl Israel, y rhai a baratoent luniaeth i'r brenin a'i dŷ: mis yn y flwyddyn yr oedd ar bob un ddarparu.