11 Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor: Taffath merch Solomon oedd yn wraig iddo ef.
12 Baana mab Ahilud oedd yn Taanach, a Megido, a Bethsean oll, yr hon sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Bethsean hyd Abel‐mehola, hyd y tu hwnt i Jocneam.
13 Mab Geber oedd yn Ramoth‐Gilead: iddo ef yr oedd trefydd Jair mab Manasse, y rhai sydd yn Gilead: eiddo ef oedd ardal Argob, yr hon sydd yn Basan; sef trigain o ddinasoedd mawrion, â chaerau a barrau pres.
14 Ahinadab mab Ido oedd ym Mahanaim.
15 Ahimaas oedd yn Nafftali: yntau a gymerodd Basmath merch Solomon yn wraig.
16 Baana mab Husai oedd yn Aser ac yn Aloth.
17 Jehosaffat mab Parua oedd yn Issachar.