15 Ahimaas oedd yn Nafftali: yntau a gymerodd Basmath merch Solomon yn wraig.
16 Baana mab Husai oedd yn Aser ac yn Aloth.
17 Jehosaffat mab Parua oedd yn Issachar.
18 Simei mab Ela oedd o fewn Benjamin.
19 Geber mab Uri oedd yng ngwlad Gilead, gwlad Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan; a'r unig swyddog oedd yn y wlad ydoedd efe.
20 Jwda ac Israel oedd aml, fel y tywod sydd gerllaw y môr o amldra, yn bwyta ac yn yfed, ac yn gwneuthur yn llawen.
21 A Solomon oedd yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd, o'r afon hyd wlad y Philistiaid, ac hyd derfyn yr Aifft: yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion, ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei einioes ef.