22 A bwyd Solomon beunydd oedd ddeg corus ar hugain o beilliaid, a thrigain corus o flawd;
23 Deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen porfadwy, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ednod breision.
24 Canys efe oedd yn llywodraethu ar y tu yma i'r afon oll, o Tiffsa hyd Assa, ar yr holl frenhinoedd o'r tu yma i'r afon: ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o amgylch.
25 Ac yr oedd Jwda ac Israel yn preswylio yn ddiogel, bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, o Dan hyd Beer‐seba, holl ddyddiau Solomon.
26 Ac yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau meirch i'w gerbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch.
27 A'r swyddogion hynny a baratoent luniaeth i Solomon y brenin, ac i bawb a ddelai i fwrdd y brenin Solomon, pob un yn ei fis: ni adawsant eisiau dim.
28 Haidd hefyd a gwellt a ddygasant hwy i'r meirch, ac i'r cyflym gamelod, i'r fan lle y byddai y swyddogion, pob un ar ei ran.