28 Haidd hefyd a gwellt a ddygasant hwy i'r meirch, ac i'r cyflym gamelod, i'r fan lle y byddai y swyddogion, pob un ar ei ran.
29 A Duw a roddodd ddoethineb i Solomon, a deall mawr iawn, a helaethdra calon, fel y tywod sydd ar fin y môr.
30 A doethineb Solomon oedd fwy na doethineb holl feibion y dwyrain, ac na holl ddoethineb yr Aifft.
31 Ie, doethach oedd efe nag un dyn; nag Ethan yr Esrahiad, na Heman, na Chalcol, na Darda, meibion Mahol: a'i enw ef oedd ymhlith yr holl genhedloedd oddi amgylch.
32 Ac efe a lefarodd dair mil o ddiarhebion: a'i ganiadau ef oedd fil a phump.
33 Llefarodd hefyd am brennau, o'r cedrwydd sydd yn Libanus, hyd yr isop a dyf allan o'r pared: ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am ymlusgiaid, ac am bysgod.
34 Ac o bob pobloedd y daethpwyd i wrando doethineb Solomon, oddi wrth holl frenhinoedd y ddaear, y rhai a glywsent am ei ddoethineb ef.