4 Benaia mab Jehoiada oedd ar y llu; a Sadoc ac Abiathar, yn offeiriaid;
5 Ac Asareia mab Nathan oedd ar y swyddogion; a Sabud mab Nathan oedd ben‐llywydd, ac yn gyfaill i'r brenin;
6 Ac Ahisar oedd benteulu; ac Adoniram mab Abda, ar y deyrnged.
7 A chan Solomon yr ydoedd deuddeg o swyddogion ar holl Israel, y rhai a baratoent luniaeth i'r brenin a'i dŷ: mis yn y flwyddyn yr oedd ar bob un ddarparu.
8 Dyma eu henwau hwynt. Mab Hur, ym mynydd Effraim.
9 Mab Decar ym Macas, ac yn Saalbim, a Beth‐semes, ac Elon‐bethanan.
10 Mab Hesed, yn Aruboth: iddo ef yr oedd Socho, a holl dir Heffer.