6 Ac Ahisar oedd benteulu; ac Adoniram mab Abda, ar y deyrnged.
7 A chan Solomon yr ydoedd deuddeg o swyddogion ar holl Israel, y rhai a baratoent luniaeth i'r brenin a'i dŷ: mis yn y flwyddyn yr oedd ar bob un ddarparu.
8 Dyma eu henwau hwynt. Mab Hur, ym mynydd Effraim.
9 Mab Decar ym Macas, ac yn Saalbim, a Beth‐semes, ac Elon‐bethanan.
10 Mab Hesed, yn Aruboth: iddo ef yr oedd Socho, a holl dir Heffer.
11 Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor: Taffath merch Solomon oedd yn wraig iddo ef.
12 Baana mab Ahilud oedd yn Taanach, a Megido, a Bethsean oll, yr hon sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Bethsean hyd Abel‐mehola, hyd y tu hwnt i Jocneam.