1 Hiram hefyd brenin Tyrus a anfonodd ei weision at Solomon; canys clybu eneinio ohonynt hwy ef yn frenin yn lle ei dad: canys hoff oedd gan Hiram Dafydd bob amser.
2 A Solomon a anfonodd at Hiram, gan ddywedyd,
3 Ti a wyddost am Dafydd fy nhad, na allai efe adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd ei Dduw, gan y rhyfeloedd oedd o'i amgylch ef, nes rhoddi o'r Arglwydd hwynt dan wadnau ei draed ef.
4 Eithr yn awr yr Arglwydd fy Nuw a roddodd i mi lonydd oddi amgylch, fel nad oes na gwrthwynebydd, nac ymgyfarfod niweidiol.
5 Ac wele fi â'm bryd ar adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw; megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Dafydd fy nhad, gan ddywedyd, Dy fab, yr hwn a osodaf fi yn dy le di ar dy orseddfainc di, efe a adeilada dŷ i'm henw i.
6 Yn awr, gan hynny, gorchymyn dorri ohonynt i mi gedrwydd o Libanus; a'm gweision i a fyddant gyda'th weision di: a rhoddaf atat gyflog dy weision, yn ôl yr hyn a ddywedych: canys ti a wyddost nad oes yn ein plith ni ŵr a fedro gymynu coed megis y Sidoniaid.
7 A bu, pan glybu Hiram eiriau Solomon, lawenychu ohono ef yn ddirfawr, a dywedyd, Bendigedig yw yr Arglwydd heddiw, yr hwn a roddes i Dafydd fab doeth ar y bobl luosog yma.